Ciw-restr

Dwy Briodas Ann

Llinellau gan Syr John (Cyfanswm: 123)

 
(1, 0) 100 Aros funud...
(1, 0) 101 Pwy ydy hon?
 
(1, 0) 106 Saf fan'na....
(1, 0) 107 Be ydy d'enw di?
 
(1, 0) 110 Be ydy d'oed di.
 
(1, 0) 112 O ble doist ti?
 
(1, 0) 115 Ydy dy ddwylo di'n lân?
 
(1, 0) 118 Fedri di dywallt te?
 
(1, 0) 120 O'r gore, Walter.
(1, 0) 121 Mi gaiff y forwyn fach yma dywallt te imi...
 
(1, 0) 124 ... Does dim rhaid iti aros.
 
(1, 0) 130 Ydy'r te'n gry?
 
(1, 0) 132 Un darn, felly...
(1, 0) 133 'Fedri di sgwennu, Ann?
 
(1, 0) 136 Wyt ti'n forwyn?
 
(1, 0) 138 Nid dyna rydw i'n ei ofyn...
(1, 0) 139 Wyt ti'n wyry?...
(1, 0) 140 Fuost ti'n caru yn y gwely?
 
(1, 0) 144 Peth prin yn dy ddosbarth di.
 
(1, 0) 147 Mi ofynnais i ti dywallt.
 
(1, 0) 149 Dos ymlaen...
 
(1, 0) 151 ... Wnei di 'mhriodi i, Ann?
 
(1, 0) 153 Wnei di 'mhriodi i, Ann?
 
(1, 0) 156 Ie.
 
(1, 0) 158 Wel?...
(1, 0) 159 Wnei di?
 
(1, 0) 163 Pam 'rwyt ti'n chwerthin?
 
(1, 0) 165 Rydw i o ddifri, Ann.
 
(1, 0) 167 Rwyt ti'n fy nghredu i?
 
(1, 0) 170 Dyna pam y gyfynnais i─
 
(1, 0) 172 Fûm i erioed yn sobrach er pan wnes i f'ewyllys yn Gibraltar saith mlynedd yn ôl.
 
(1, 0) 176 Mae darpariaeth ynddi i wraig...
(1, 0) 177 Un unig ydw i, Ann.
 
(1, 0) 179 Rydw i'n hen, 'merch i.
(1, 0) 180 Blwyddyn arall ac mi fydda i'n ddeugain.
 
(1, 0) 183 'Gân' nhw ddychryn?
 
(1, 0) 185 Mae arna i ofn y bydd peth dychryn ar y cynta yn Bath ac yn Baron Hill... cyn iddyn nhw dy weld di.
 
(1, 0) 188 'Fydd arnat ti ofn?
 
(1, 0) 191 Mi fyddi di'n un ohonyn nhw.
 
(1, 0) 193 Mi fydd yn haws sgwennu ati na dweud wrthi.
(1, 0) 194 Tipyn o arglwyddes ydy fy chwaer.
 
(1, 0) 199 Ddaru ti addo 'mhriodi i, Ann Thomas?
 
(1, 0) 201 Wyt ti'n tynnu'n ôl?
 
(1, 0) 203 Rhaid inni briodi heb fod neb yn gwybod...
(1, 0) 204 Yma yn eglwys y plwy...
(1, 0) 205 Tair wythnos i heddiw...
(1, 0) 206 Am wyth ar gloch y bore...
(1, 0) 207 Leisens arbennig...
(1, 0) 208 Rhoi'r ficer ar ei lw i gau ei geg.
(1, 0) 209 Fedri di fod allan y bore heb i neb yn y cefn amau?
 
(1, 0) 214 Fedri di ddilyn dy waith yma am dair wythnos fel cynt?
 
(1, 0) 216 Nid breuddwyd ydy hyn, Ann.
 
(1, 0) 219 Paid dithau â rhedeg i ffwrdd.
 
(1, 0) 221 Be fu?
 
(1, 0) 226 Fedri di reoli tŷ fel hwn?
 
(1, 0) 229 Be' fydd dy broblem di?
 
(1, 0) 232 Ann bach, rydw i'n methu'n lân â dirnad pam rwyt ti'n fy mentro i.
 
(1, 0) 235 Mi wn i pam rydw i'n mentro.
(1, 0) 236 Ond pam yr wyt ti?
 
(1, 0) 238 I ti rydw i'n gofyn.
 
(1, 0) 241 Dyna'r unig reswm?
 
(1, 0) 248 Gŵr bonheddig?
 
(1, 0) 251 Clerigwr?
 
(1, 0) 254 Un o'r pentre?
 
(1, 0) 257 Hwnna?
(1, 0) 258 Mi glywais amdano.
(1, 0) 259 Be sy arno'i eisiau?
 
(1, 0) 262 'Tyrd a fo yma.
 
(1, 0) 267 Pnawn da.
 
(1, 0) 269 Be alla i ei wneud i chi?
 
(1, 0) 278 Mae brwydr Traffalgar y llynedd wedi gostwng llawer ar y peryglon hynny.
 
(1, 0) 282 Ac weithiau'n dal ysglyfaeth.
(1, 0) 283 Fel yna, welwch chi, mae capteiniaid llynges yn ennill eu bara.
 
(1, 0) 285 Mae'n drueni amdanyn nhw, ond rhyfel ydy rhyfel.
 
(1, 0) 287 Oes rhai o Sir Fôn yma?
 
(1, 0) 296 Ydach chi'n nabod rhai ohonyn nhw?
 
(1, 0) 299 A chithau'n casglu iddo fo?
 
(1, 0) 301 I'r Cymry rydych chi'n casglu?
 
(1, 0) 305 Oes gennych chi rywbeth i ddangos iddyn nhw dderbyn yr arian?
 
(1, 0) 309 Sir John Elias!
 
(1, 0) 311 Pwy ydy hwnnw?
 
(1, 0) 315 Yn wir, rydach chi'n rhoi golwg newydd i minna ar y Methodistiaid.
(1, 0) 316 Peth anghyffredin yn eich hanes chi?
 
(1, 0) 321 Wel, mi gaiff fod yn rhan o 'nyletswydd inne, er nad ydw i ddim yn Fethodist.
(1, 0) 322 Mi ro i ddau gini i chi at yr achos da.
 
(1, 0) 325 Wel ie, hyd yn hyn, hyd yn hyn...
(1, 0) 326 Ond rhoswch rwan, mi fydda i'n eistedd ar y fainc weithiau gyda Mr. Richard Broadhead.
(1, 0) 327 Rydach chi, yn ôl a glywaf i, yn fab yng nghyfraith iddo fo?
 
(1, 0) 330 Mae hynny'n naturiol.
(1, 0) 331 Mae priodi'n is na'i stad yn beryg go enbyd, yn enwedig i ferch.
 
(1, 0) 334 Mi ddalia i naddo.
(1, 0) 335 Rydw i'n ei chofio hi'n eneth fach, yr hyna ohonyn nhw, ffefryn annwyl ei thad, merch fonheddig a gwraig fonheddig.
 
(1, 0) 337 Aha?
(1, 0) 338 Chi wnaeth Fethodist ohoni?
 
(1, 0) 340 Felly nid ei phriodas oedd achos y rhwyg rhyngddi a'i thad?
 
(1, 0) 342 Dewis cwmni isel, gwerinol.
(1, 0) 343 Wedyn priodi i'w chlymu ei hun ynddo.
(1, 0) 344 Druan o'r hen Broadhead, colli cannwyll ei lygad.
(1, 0) 345 A dwyn gwarth arno hefyd.
(1, 0) 346 Hynny yw, yn ei gylch ei hun.
 
(1, 0) 348 Ac i chithau?
(1, 0) 349 Wedi'r cwbl, mae ganddo fab yng nghyfraith reit enwog.
 
(1, 0) 351 Rydach chi'n swynwr heb eich bath.
(1, 0) 352 Mi ddalia i mai yn y pwlpud y gwelodd Miss Broadhead chi gynta?
 
(1, 0) 356 Mae pwlpud yn berig i ferch!
 
(1, 0) 358 Wel ie, digon posib.
(1, 0) 359 Ond fu 'na rioed ferch a briododd y pwlpud a'r plas.
 
(1, 0) 361 Offrwm?
(1, 0) 362 Gair da yn ei le...
(1, 0) 363 Dwedwch i mi, a gobeithio nad ydy'r cwestiwn ddim yn rhy bersonol... gawsoch chi fod priodi mor anghyfartal o ran dosbarth a dygiad i fyny, yn anodd?
 
(1, 0) 365 Ie?
 
(1, 0) 368 Sir John Elias! Sir John Elias!
(1, 0) 369 Ateb gŵr bonheddig.
(1, 0) 370 Rydych chi'n codi fy nghalon i'n arw...
 
(1, 0) 372 Fwy nag y tybiwch chi.
(1, 0) 373 Mi ddaethoch chi yma pan oedd eich angen chi...
(1, 0) 374 Faint ddwedais i y rhown i i'r gronfa yma?
 
(1, 0) 376 Mae'ch neges chi heddiw yn haeddu mwy na hynny.
(1, 0) 377 Dywedwn bum punt.
(1, 0) 378 Arhoswch...
 
(1, 0) 380 Rhaid inni fynd i'r offis....
 
(1, 0) 382 Walter, tyrd â het a chot Mr. Elias i'r offis.
(1, 0) 383 Mae gennyn ni fusnes yno...